Croeso i Menter Felinheli

Mae Menter Felinheli wedi’i sefydlu gan drigolion ein pentref er mwyn nodi a datblygu prosiectau cynaliadwy, fydd o fudd economaidd i’r gymuned yn Y Felinheli a'r ardal ehangach.


Cynlluniau Neuadd yr Eglwys yn symyd ymlaen

Cymrodd ein bwriad i feddiannu Neuadd yr Eglwys yn y pentref gam sylweddol ymlaen wrth i gyfranddalwyr Menter Felinheli gymeradwyo’r cynllun.

Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru ers misoedd ynglyn a dyfodol y safle a fu unwaith yn ganolbwynt i bob math o weithgaredd cymunedol, ond sydd yn segur ers blynyddoedd oherwydd cyflwr yr adeilad.

Ein bwriad yw gwneud yr adeilad yn ganolbwynt i’r gymuned unwaith eto, ond bydd angen buddsoddiad sylweddol cyn y gall hynny ddigwydd. Fel menter gymunedol, rydym mewn lle da i ddenu grantiau o arian cyhoeddus ar gyfer y math yma o waith.

Eisioes mae’r Eglwys wedi cytuno mewn egwyddor i drosgwlyddo’r adeilad i’r Fenter ac mae trafodaethau yn parhau ar fanylion lês tymor-hir rhwng y ddau gorff ac unrhyw gyfraniad ariannol gan yr Eglwys.

Mae cynrychiolwyr o’r gwahanol gyrff sydd â diddordeb hanesyddol yn yr adeilad hefyd wedi datgan eu cefnogaeth mewn egwyddor i’r cynlluniau.

Ac mewn cyfarfod arbennig o’n cyfranddalwyr nos Fawrth 23 Medi, cafodd ein cyfarwyddwyr eu hawdurdodi i fwrw ymlaen gyda’r trafodaethau a chwblhau cytundeb fydd gobeithio yn gweld y neuadd yn ail-agor ei drysau unwaith eto i bob math o weithgareddau. Ac wrth gwrs fe fydd yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion Eglwysig.

Y cam nesaf yw cynnal arolygon o’r adeilad i ddarganfod union faint a natur y gwaith atgyweirio sydd ei angen a chynnal trafodaethau pellach gyda’r Eglwys yng Nghymru i ddod i gytundeb terfynol.

Ond rydym hefyd yn chwilio am syniadau gan bobol y pentref am be ellir wneud gyda’r adeilad.

Gan weithio mewn partneriaeth hefo ni, fe wnaeth y cyngor cymuned gasglu nifer o awgrymiadau diddorol ynglyn a’r defnydd potensial o’r safle yn ystod Gwyl Felinheli eleni.

Diolchwn yn fawr i Dan Williams, aelod o’r cyngor, am ei gyflwyniad i’r cyfranddalwyr ynglyn a’r awgrymiadau gwych yma.

Yn fuan fe fyddwn yn rhannu ein cynlluniau, a’r datblygiadau diweddaraf mewn cyfarfod cyhoeddus ble bydd croeso cynnes i unrhyw un yn Y Felinheli gyfrannu eu syniadau ar gyfer y safle.

Gofod ar gyfer y pentref fuodd Neuadd yr Eglwys erioed, a dyna’n union fydd o i’r dyfodol - adeilad cynnes, cyfforddus, croesawgar, cyfoes sy’n diwallu anghenion pobol Y Felinheli.