Menter Felinheli
Croeso i Menter Felinheli
Mae Menter Felinheli wedi cael ei sefydlu i ddod a budd economaidd a chymdeithasol i’r pentref a’r dalgylch cyfagos.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn y pentref fis Gorffennaf dangoswyd cryn gefnogaeth i amcanion y Fenter, y bwriad ydi datblygu’r adnoddau sydd yn y pentref er budd y gymuned leol. Mae angen bod yn gynhwysol ac ystyried mewnbwn pawb yn lleol wrth ddatblygu prosiectau a chynlluniau i elwa’r gymuned
Fel prosiect cyntaf mae’r Fenter yn ystyried y posibilrwydd o brynu marina’r Felinheli sydd yn nwylo’r derbynydd ers fis Fehefin
Mae’r marina ar safle pwysig iawn – yn wir, dyma’r rheswm am fodolaeth y pentref, sef y porthladd ble roedd llechi Dinorwig yn cael ei hallforio i bedwar ban byd, ond er gwaethaf ymdrechion blaenorol, does yna ddim i gysylltu hanes y lle hefo’r oes fodern.
Cafodd y marina ei greu ar gyrion y pentref yn yr 1980au, ond i raddau helaeth mae’n bodoli fel cymuned arwahan – ryden ni’n gobeithio newid hyn er lles y gymuned yn y Felinheli.
Os llwyddwn, dyma fydd y tro cyntaf i fenter gymdeithasol yng Nghymru ddod yn berchen ar farina, er bod eisiamplau eisioes yn yr Alban yn bodoli.
Mae’n ddyddiau cynnar iawn i’r Fenter a, beth bynnag fydd yn digwydd i’r marina yn y dyfodol, fe fydd yna brosiectau gwerthfawr eraill y gall y Fenter ei cefnogi er lles y pentref a’i phobol.