Croeso i Menter Felinheli

Mae Menter Felinheli wedi’i sefydlu gan drigolion ein pentref er mwyn nodi a datblygu prosiectau cynaliadwy, fydd o fudd economaidd i’r gymuned yn Y Felinheli a'r ardal ehangach.

Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio i ddod o hyd i gyfleoedd addas ar gyfer buddsoddiad – ac fe wnaethon ni drafod nifer o’r rhain yn ein cyfarfod diwethaf i gyfranddalwyr.

Mae ganddom ni ddiddordeb penodol mewn prosiectau cynhyrchu ynni lleol, twristiaeth, hamdden a threftadaeth, yn ogystal â mentrau masnachol fydd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth ac entrepreneuraidd i drigolion Y Felinheli.