Amdanom


Pam a sut mae prynu marina

Mae’n cais i brynu marina a harbwr Y Felinheli i’r gymuned wedi codi lot o gwestiynau. Dyma atebion i rai o’r rhai mwyaf cyffredin.

Menter Felinheli

Sefydlwyd Menter Felinheli yn gynharach eleni hefo’r bwriad o fanteisio ar gyfleon perthnasol i wella’r pentre yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae 34 menter debyg drwy Wynedd yn unig, yn rhedeg bob math bethau o siopau a thafarnau i theatrau a chynlluniau cynhyrchu trydan. Eu bwriad nhw i gyd yn y bôn, ydi i ddarparu adnoddau i’r gymuned a chreu elw i fuddsoddi mewn cynlluniau eraill yn y cymunedau hynny.

Mae yn ffordd dda o ddenu buddsoddiad. Mae yna lot o grantiau arian cyhoeddus ar gael i wireddu prosiectau cymunedol, ond mae’n rhaid cael corff addas i geisio am y grantiau yna. Mentrau cymunedol, fel yr un yma, ydi’r ffordd orau o wneud hynny.

Mae’r bobol sydd y tu ôl i’r Fenter hefo profiad helaeth o redeg mentrau cymunedol, busnesau, a denu grantiau o ffynhonellau cyhoeddus.

Prosiect y marina

Y peth cyntaf ydi, gan ei fod o ar werth, rŵan. Mae o’n gyfle unigryw i sicrhau fod adnodd o’r fath hefo dyfodol sicrach yn nwylo lleol. Ryden ni isho cadw’r elw o’r lle yn lleol a’i ddefnyddio er budd pobol leol. Ers degawdau mae lot fawr o’r elw o’r harbwr a’r marina wedi gadael y pentref. Os gallwn ni ei brynu fe fydd yr elw yna yn aros yma, i ddatblygu mwy o swyddi a phrosiectau yn y pentre.

Allwn ni ddim datgelu’r pris rydan ni wedi gynnig oherwydd cyfrinachedd masnachol. Ond rydan ni wedi cael arbenigwyr i’n cynghori ar be ydi gwerth y lle ac mae’r cynnig yn seiliedig ar hynny. Rhaid pwysleisio hefyd ei fod yn gynnig cyfrifol – ein prif nôd ydi ychwanegu gwerth i’r pentre, felly roedd yn rhaid i ni fod yn ofalus nad oedden ni yn cynnig mwy na gwerth y safle i’r gymuned.

Dim o gwbwl. Holl bwynt y cynnig yma ydi i ddod a budd i’r pentre cyfan. Os gallwn ni brynu’r  safle, mae o’n creu cyfle wedyn i gadw’r elw o redeg y lle yn y gymuned. Os medrwn ni godi’r gwariant oddiyno, bydd mwy o bobol yn gwario’i harian yn lleol. Fe fydd hynny’n helpu busnesau eraill yn y pentref. Ac fe fydd yr elw o redeg y safle yn cael ei sianelu yn ôl i wella’r marina a’r harbwr ac i brosiectau eraill yn y gymuned yn y dyfodol.

Y peth cyntaf fyddai sicrhau swyddi’r bobol sydd yn gweithio yno a rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r busnesau sy’n gweithredu oddi yna.  Mae’n rhy gynnar i fynd i fanylion ynglŷn a datblygiadau, ond mae yna lot o bosibiliadau cyffrous i’r lle. Yn dilyn esiampl Port Patrick yn Yr Alban, lle mae menter debyg wedi prynu marina yno, fe fydd modd i ni fel cymuned wneud yn siŵr bod y safle yn fwy hygyrch i bobol Felinheli drwy ddefnyddio’r gofod prin sydd yna fel adnodd cymunedol, er enghraifft cynnal gŵyl fwyd môr a gweithgareddau tebyg. Mi fyddai hynny’n gyfle i ni fel pentre deimlo mai ni sy’ bia’r ardal.

Mae ‘na ambell beth fydd angen sylw ond dim byd yn syth bin. ‘Da ni wedi derbyn barn peirianydd profiadol fel ein bod ni’n gallu blaenoriaethu.

Roedd y perchenog blaenorol yn berchen ar bump marina, Y Felinheli yn un o’r rheiny, ac mae’r cyfan hefo’i gilydd wedi mynd yn fethdalwr. O edrych ar y ffigurau ryden ni’n hyderus y byddai rhedeg yr harbwr a’r marina mewn ffordd wahanol yn llwyddiannus. Fyddai Menter Felinheli ddim jysd yn mynd a’r elw i ffwrdd, fe fydden ni yn ei fuddsoddi er lles tymor hir y marina a’r pentref.

Y cam cyntaf ydi diogelu’r swyddi sydd yno ar hyn o bryd. Tu hwnt i hynny mae llawer o bosibiliadau am ddatblygu’r safle fyddai, gobeithio, yn creu mwy o swyddi uniongyrchol, a rhai lleol, a fyddai yn cadw’r budd yn lleol.

Ydyn, heb amheuaeth. Rydan ni wedi cynnal dau gyfarfod cyhoeddus hyd yma a does dim byd ond cefnogaeth wedi cael ei fynegi yn y cyfarfodydd hynny. Mae gan bobol lot o gwestiynau yn amlwg ond mae pob sgwrs rydan ni’n gael yn creu mwy a mwy o gefnogaeth.

Mae rheolwr a staff y marina a’r harbwr yn brofiadol tu hwnt - mae nhw’n dallt y busnes yn dda iawn. Os llwyddwn ni, y nhw fydd yn rhedeg y lle o ddydd i ddydd ac fe fyddwn ni’n gweithio’n agos hefo nhw ynglyn ag unrhyw gynlluniau i fuddsoddi a datblygu.

Y cyfranddaliadau

£100 yr un, ond does dim yn stopio neb i brynu mwy.

Mae cyllideb pawb yn wahanol wrth gwrs, ond fe gaiff unigolion fuddsoddi hyd at £100,000 yn y Fenter pe byddai nhw eisiau. Rydan ni’n apelio ar bobol i brynu nifer o shârs os gallan nhw, ond wrth gwrs mae pob un sy’n cael ei werthu yn mynd a ni gam yn nes at y targed.

Mae hyn ychydig yn wahanol i fuddsoddiad mewn cyfranddaliadau arferol. Ar ôl y dair mlynedd gyntaf gall y Bwrdd (a fydd yn un etholedig) benderfynu faint o lôg fyddai’r fenter yn ei dalu ar  fuddsoddiadau. Gall buddsoddwyr ddewis gadael yr elw yno neu dderbyn beth bynag fysa’r penderfyniad ar y llôg. Ac wrth gwrs, fe allwch chi dynnu eich arian allan yn y dyfodol pe bae chi eisiau gwneud hynny. Dyma’r drefn arferol hefo mentrau cymunedol o’r math yma.

Buddsoddi yn nyfodol y pentref a’i economi fyddwch chi. Fe fydd yn helpu’ch cymdogion a’ch ffrindiau a’ch teulu drwy helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus i’r pentref.

Ryden ni’n anelu i godi mwy na £300,000 drwy’r cynnig cyfranddaliadau. O edrych ar fentrau cymunedol eraill, er bod hyn yn swnio’n lot o bres, mae o’n realistig ac o fewn cyrraedd.

Does dim perygl o fath yn y byd i’ch buddsoddiad. Os nad ydi’n cais ni am y marina yn cael ei dderbyn, fe fydd yna brosiectau eraill y bydd Menter Felinheli yn ymgymryd a nhw yn y pentref. Ac wrth gwrs, fe all unrhyw un dynnu eu pres allan ar unrhyw adeg.